Manteision bod yn ddwyieithog

Mae rhwng 60 a 75% o drigolion y byd yn ddwyieithog, ac felly mae bod yn uniaith yn y lleiafrif.

Yn ogystal a'r manteision amlwg o etifeddu yr iaith a'i diwylliant, a'r gallu i gyfarthrebu'n naturiol gyda'r teulu yng Nghymru, mae llawer o fanteision i fod yn ddwyieithog a llawer o waith ymchwyl i'w cefnogi. Maen't yn cynnwys manteision addysgiadol, cymdeithasol a diwylliannol. Mae'r gymdeithas TWF sy'n cefnogi teuluoedd i ddwyn eu plant i fyny yn ddwyieithog, yn crynhoi'r manteision fel a ganlyn:

Chwech rheswm da dros ddysgu Cymraeg i'ch plant:
Bod ar y blaen wrth ddarllen a chyfri
Mae dysgy dwy iaith yn haws i blant bach
Mae llawer o swyddi yng Nghymru angen sgiliau Cymraeg a Saesneg
Mae siarad dwy iaith yn agor y drws i wneud ffrindiau newydd
Y gorau o ddau fyd a dau ddiwylliant
Ar ol dysgu ail iaith mae'n haws dysgu rhagor o ieithoedd
Gwybodaeth pellach ynglyn a dwyieithrwydd:
TWF
Mudiad Ysgolion Meithrin
Bwrdd yr Iaith Gymraeg