Amcan y Cylch

Mae'r Cylch wedi ei anelu at fabanod a phlant cyn-oed ysgol hefo'u rhiant new ofalwr yn bresennol.

Nod y Cylch yw cynnig cefnogaeth i deuluoedd wrth iddynt gyflwyno'r iaith Gymraeg i'w plentyn ifanc tra'n byw i ffwrdd o Gymru. Mae'r Cylch yn cydnabod bod y misoedd cyntaf hefo baban newydd yn holl bwysig i sefydlu patrwm iaith, fydd yn paratoi'r plentyn am ddyfodol o fanteisio ar ddwyieithrwydd. Mae cefnogaeth cymuned yn holl bwysig I'r broses hon, I'r rhiant ac I'r plentyn.

Cynnigir amgylchedd hwylus i'r plant gael chwarae gyga ffrindiau, gwneud gweithgareddau a chanu drwy gyfrwng y Gymraeg.

Bydd y gweithgareddau i gyd, a'r cymdeithasu yn ystod y bore yn digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Byddwn yn cefnogi'r rhiant di-gymraeg yn ystdod y sesiwn, a bydd croeso mawr iddynt.

Yn ystod y bore bydd cyfle I'r plant ymgartrefu a chwarae, yna byddwn yn dweud Bore Da mewn cylch, a chanu caneuon amrywiol yn cynnwys hwiangerddi modern. Ar ol diod a byrbryd byddwn yn gwneud gweithgareddau, clirio gyda help y plant, ac amseri fwynhau ein pecyn bwyd hefo'n gilydd.

Os oes eisiau brwsio lan ar eich hwiangerddi, ewch fan hyn i gael help.