Croeso!

Croeso i wefan y Dreigiau Bach - cylch chwarae ti a fi Cymraeg i deuluoedd De Llundain.

Sefydlwyd y cylch ym mis Tachwedd 2004, fel ymateb i'r galw am wasanaeth i deuluoedd gyda plant ifanc oedd yn rhy bell o safle'r Ysgol Gymraeg yn Stonebridge Park, Gogledd Llundain.

Bu'n llwyddiant mawr o'r cychwyn, gyda brwdfrydedd y plant a'r rhienni yn amlwg.

Cyfle da i'r plant wneud ffrindiau a chael hwyl drwy gyfrwng y Gymraeg, ac i'r rhienni gefnogi eu gilydd wrth ddwyn eu plant i fyny yn ddwyieithog.

Rydym yn aelod o'r Mudiad ysgolion meithrin.

Mae gennym gysylltiadau agos a Ysgol Gymraeg Llundain. Mae'r ysgol hon yn cynnig cyfle unigryw y tu allan i Gymru i addysgu eich plant oed meithrin a chynradd drwy gyfrwng y Gymraeg. Croeso mawr i unrhyw deulu sy'n cysidro addysgu eu plentyn yno, ar ol cychwyn da yng nghylch chwarae y Dreigiau Bach, i drefnu mynd i gyfarfod pennaeth a gweld yr ysgol. Gall aelodau Cylch Chwarae'r Dreigiau Bach hefyd ymuno a'r gweithgareddau cymdeithasol amrywiol mae'r Ysgol Gymraeg yn ei gynnig, yn cynnwys nosweithiau noson lawen, twmpath dawns a'r diwrnod mabolgampau a barbeciw blynyddol gwych. Bydd hyn yn helpu uno teuluoedd Cymraeg Llundain fel un gymuned eang.